Manhattan yn Efrog Newydd
Mae Cymro sydd yn byw ac yn gweithio yn Efrog Newydd wedi dweud wrth Golwg360 nad oes yna banic yn y ddinas wrth i Gorwynt Sandy ledu ar draws America.

Dywedodd Tom Ogden, sy’n gweithio i gwmni Fidessa ym Manhattan, ei fod yn gweithio gartref ar hyn o bryd, a bod dŵr wedi bod yn taro yn erbyn drws ei gartref.

Mae e wedi bod yn byw yn Efrog Newydd ers 12 o flynyddoedd, a bu’n gweithio yn San Francisco am ddwy flynedd cyn hynny.

Dywedodd: “Mae Parth A wedi cael ei wacáu, ond does dim panic.

“Mae pawb fel pe baen nhw wedi ymlacio am y cyfan.

“Es i i’r siop neithiwr i gael ychydig o nwyddau ac roedd y lle dan ei sang. Yn yr ystyr hynny, mae pobl yn prynu mewn panic.

“Ond fydd Efrog Newydd ddim yn gweld yr effeithiau am ychydig eto.

“New Jersey fydd yn cael ei effeithio gyntaf, ac mae’n bosib iawn y bydd eu pŵer nhw’n cael ei ddiffodd erbyn i’r corwynt daro tua 6 o’r gloch heno.”

Gallai’r corwynt effeithio ar fwy nag 800 milltir o arfordir dwyreiniol y wlad.

Pan fydd yn cyrraedd Efrog Newydd, mae disgwyl iddo effeithio ar fusnesau a thrafnidiaeth yn y ddinas.

Roedd y corwynt eisoes o fewn 470 milltir i’r ddinas dros nos neithiwr, ac mae’r gwynt wedi cyrraedd cyflymdra o 75 milltir yr awr.

Mae yna bryderon y gallai fod yn un o’r corwyntoedd gwaethaf yn hanes y wlad, a chafodd stad o argyfwng ei gyhoeddi.

Cafodd nifer fawr o deithiau awyr eu gohirio dros nos, gan olygu bod disgyblion  Ysgol Dyffryn Teifi wedi methu a dychwelyd yn ol adref. Mae plant o Ysgol Bro Myrddin hefyd yn aros yn Efrog Newydd ar hyn o bryd ac mae disgwyl iddyn nhw hedfan yn ol ddydd Iau.

Mae pobl mewn rhannau o’r ddinas wedi cael gorchymyn i adael eu cartrefi.