Jimmy Savile
Cafodd Jimmy Savile ei atal rhag cael cysylltiad gydag elusen y BBC, Plant Mewn Angen, yn ôl cyn lywodraethwr y BBC yng Nghymru.

Dywedodd Syr Roger Jones, cyn gadeirydd Plant Mewn Angen, ei fod yn anghyfforddus ynglŷn â chaniatáu i Savile gael cysylltiad gyda’r elusen, er gwaethaf ymdrechion y cyflwynydd i godi miliynau tuag at achosion da.

Mae Scotland Yard yn ymchwilio i nifer o honiadau bod cylfwynydd Jim’ll Fix It wedi cam-drin merched ifainc yn rhywiol dros gyfnod o ddegawdau.

Er nad oedd ganddo “unrhyw dystiolaeth” yn erbyn  Savile, dywedodd Syr Roger Jones ei fod yn teimlo bod ei ymddygiad yn amheus.

Mewn cyfweliad gyda’r BBC, dywedodd: “Dwi’n credu ein bod ni i gyd wedi cydnabod ei fod yn gymeriad annymunol.

“Pan oeddwn i gyda Phlant Mewn Angen, naethon ni gymryd y penderfyniad nad oeddan ni ei eisiau yn agos at yr elusen ac fe wnaethon ni gryfhau ein polisïau gwarchod plant.”

Dywedodd Syr Roger Jones y byddai wedi bod yn anodd iawn gwneud unrhyw honiadau am Savile oni bai bod ’na dystiolaeth gref, ond gan fod yr elusen yn ceisio amddiffyn ei hun rhag pedoffiliaid, doedd dim angen tystiolaeth, meddai.

Ychwanegodd bod yr elusen yn denu pedoffiliaid a’u bod yn aml yn derbyn galwadau gan yr heddlu yn eu rhybuddio yn erbyn rhai pobl oedd wedi gwneud cais am arian.

“Fe wnaethon ni popeth yn ein gallu i amddiffyn y plant,” meddai.

Nid oedd yn cofio’r amheuon am Savile yn cael eu trafod mewn unrhyw gyfarfod gyda llywodraethwyr y BBC, meddai.