Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi dweud y gallai’r arian a gafodd ei wario ar bapurau pleidleisio uniaith Saesneg ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu fod wedi cael ei wario ar hyfforddi heddweision mewn 13 o gymunedau.

Yn ol Simon Thomas, AC y Canolbarth a’r Gorllewin, mae’r broses ychwanegol o sicrhau papurau pleidleisio Cymraeg wedi costio £350,000.

Mae disgwyl i Orchymyn drafft Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Ffurflenni Cymraeg) 2012 gael ei drafod yn San Steffan heddiw.

Rhaid i’r Gorchymyn ddod i rym erbyn Hydref 31 er mwyn anfon papurau pleidleisio yn y post.

Mae’r bleidlais yn cau ar 15 Tachwedd.

Dywedodd Simon Thomas: “Mae’r Llywodraeth yn Llundain yn cwtogi yn eithriadol ar wariant cyhoeddus. Er hynny mae diffyg ystyriaeth o ddarpariaeth angenrheidiol o ran y Gymraeg wedi golygu mynd drwy’r broses ychwanegol hon i sicrhau papurau pleidleisio Cymraeg, sydd wedi golygu gwastraffu £350,000.

“Er gwaethaf sylwadau’r Ceidwadwyr i’r gwrthwyneb mae Deddf yr Iaith Gymraeg yn dal i fod yn berthnasol i weithredoedd gweinidogion y Goron ac mae eu dyletswyddau yn sefyll, heb eu newid, gan y Mesur Iaith ddiweddar.

“Mae hyn yn fethiant llwyr ar ran Swyddfa Cymru i ymwneud yn briodol â’r Gymraeg a’r Saesneg yn gydradd.

“Gallai’r arian sydd wedi ei wastraffu dalu am heddwas wedi ei hyfforddi i 13 o gymunedau yng Nghymru.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: “Mae’r Swyddfa Gartref wedi ymrwymo i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn gydradd gyda Saesneg yng Nghymru.

“Rydym yn hyderus y bydd y gwaith brys yr ydym yn ei wneud yn sicrhau bod deddfwriaeth yn ei lle er mwyn sicrhau ffurflenni dwyieithog yng Nghymru.”