Gerry Coyle
Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn adroddiadau bod dyn 65 oed wedi mynd ar goll ar ben yr Wyddfa.

Gadawodd Gerry Coyle Westy Llyn Padarn yn Llanberis tua 11am ddydd Iau, gan ddweud ei fod am ddringo i ben yr Wyddfa.

Anfonodd neges destun at ei wraig, ac mae yna le i gredu ei fod wedi mynd i ben yr Wyddfa ar y trên.

Cafodd ei weld yng nghaffi Hafod Eryri am 1pm, ond dydy e ddim wedi cael ei weld ers hynny.

Bu’r heddlu, ynghyd â Thîm Achub Mynydd Llanberis, y Llu Awyr, Achubwyr Gogledd Ddwyrain Cymru a Chymdeithas Cŵn Achub Cymru yn chwilio amdano ers dydd Sadwrn.

Mae’n 5’3 o ran ei daldra, yn foel ag ychydig o wallt llwyd ar yr ymylon ac mae ganddo farf llwyd.

Roedd yn gwisgo côt werdd, trowsus gwyrdd a het dywyll.

Mae’n bosib ei fod yn cludo offer ffotograffiaeth gydag e pan aeth ar goll, a bod yr offer mewn bag.

Dywedodd y Sarsiant Rob Hands o Heddlu’r Gogledd: “Gadawodd Mr Coyle y gwesty gan ddatgan ei fwriad i gerdded i’r copa ac yn wir, o siarad gyda staff yno, mae’n ymddangos iddo gyrraedd.

“Fodd bynnag, dydy o ddim wedi cael ei weld ac wrth i’r amser fynd heibio, a chyda’r tywydd yn gwaethygu, rydym yn gynyddol bryderus am ei ddiogelwch. Rwy’n apelio ar unrhyw un sydd wedi bod yn cerdded y mynyddoedd yn ystod y dyddiau diwethaf i gysylltu ar unwaith â’r heddlu os ydych chi wedi gweld Mr Coyle.”

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r Gogledd ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.