Mae cwmni papurau newydd Trinity Mirror, sy’n berchen y Western Mail a’r Daily Post,  wedi cyhoeddi bwriad i gydweithio gyda pherchennog y Daily Mail i greu cwmni papurau newydd lleol.

Fe fydd gan Trinity Mirror gyfran fach yn y fenter newydd a fydd hefyd yn cynnwys asedau papurau rhanbarthol Daily Mail & General Trust (DMGT) a pherchennog y Cambridge News, Iliffe News & Media.

Mae trafodaethau eisoes wedi dechrau, yn ôl Trinity Mirror ond does dim cynnig wedi ei wneud.

Cyn-brif weithredwr Mirror Group, David Montgomery sy’n arwain y grŵp.

Yn ôl yr adroddiadau fe fydd gan y tri grŵp gyfran o 75% yn y busnes newydd a fydd yn cael ei law’n Local World.

Mae’n debyg na fydd Trinity Mirror yn cynnwys ei bapurau newydd rhanbarthol yn y busnes newydd ar hyn o bryd.

Mae Trinity Mirror yn berchen ar fwy na 130 o bapurau rhanbarthol dyddiol ac wythnosol, gan gynnwys y Western Mail, Daily Post, Liverpool Echo a’r Manchester Evening News.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni: “Gall Trinity Mirror gadarnhau ei fod mewn trafodaethau gyda’r nod o dderbyn cyfran fach o gwmni newydd sy’n cynnwys asedau Northcliffe Media, adran o DMGT ac Iliffe News & Media, sy’n adran o’r Yattendon Group.

“Does yna’r un cynnig wedi cael ei wneud a does dim byd pellach i’w ddweud ar hyn o bryd.”