Damascus
Mae bom mewn car ym mhrifddinas Syria wedi lladd o leiaf 10 o bobol ar ddiwrnod olaf cadoediad a gafodd ei drefnu gan y Cenhedloedd Unedig.
Dywedodd swyddogion yn Syria fod y bom, yn ardal Jaramana yn ninas Damascus, wedi anafu 41 o bobol ac wedi achosi difrod sylweddol.
Roedd y Cenhedloedd Unedig wedi bod yn ceisio trefnu cadoediad dros wyliau Moslemaidd Eid Al-Adha ac mae pennaeth y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon, wedi mynegi ei siom fod y carfanau gwahanol wedi methu â pharchu’r heddwch.
“Ni all yr argyfwng yma gael ei ddatrys gan fwy o arfau a cholli gwaed,” meddai Ban Ki-moon
“Rhaid i’r gynau dewi.”
Roedd lluoedd yr arlywydd Assad a sawl grŵp gwrthryfelgar wedi cytuno i gynnal cadoediad ond nid oedd hynny’n ddigon i atal ymosodiadau dros y penwythnos.
Mae oddeutu 32,000 o bobol wedi marw ers dechrau’r anghydfod yn Syria yng ngwanwyn 2011.