Mae ditectifs yng Nghaergybi yn apelio am wybodaeth yn dilyn digwyddiad yn Y Fali, Ynys Môn.
Cafodd pedwar o bobl, rhwng 19 a 24 oed, eu harestio mewn cysylltiad ag aflonyddwch yn ystod oriau man bore dydd Sadwrn, 13 Hydref.
Cafodd pump o bobl eu hanafu, gan gynnwys dau ddyn, sydd ddim yn dod o Ogledd Cymru. Cafodd y ddau ddyn eu cludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor gydag anafiadau difrifol i’w hwyneb.
Mae ymchwiliad yr heddlu eisoes ar y gweill ac mae ditectifs yn apelio ar unrhyw un a oedd wedi gweld y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gerallt Jones bod yr heddlu wedi cael eu galw i’r digwyddiad tua 1.45yb ond dywedodd bod nifer o geir yn pasio drwy’r Fali, yn bennaf o Gaergybi, yn ystod oriau man y bore ac mae’n bosib y gall gyrrwr neu bobl yn dychwelyd ar ôl bod allan am noson wedi gweld y digwyddiad.
Mae’r pedwar dyn gafodd eu harestio wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.
Dylai unrhyw un gyda gwybodaeth ffonio’r heddlu yng Nghaergybi ar 101, neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.