Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A40 rhwng San Clêr a Hendy-gwyn ar Daf nos Wener ddiweddaf.

Roedd Laura Mary Anne Rees yn 23 oed ac yn dod o San Clêr.

Cafodd pedwar o bobl eraill, gan gynnwys dau o blant, eu hanafu yn y ddamwain a’u cludo i’r ysbyty ond mae’n debyg nad yw eu hanafiadau yn ddifrifol.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r ddamwain i’w ffonio ar 101.