Mae nai Jimmy Savile wedi dweud bod teimladau teulu’r diweddar DJ yn gymysglyd tu hwnt oherwydd yr honniadau ei fod wedi camdrin plant.
Dywedodd Roger Foster fod y teulu bellach yn amau eu teimladau tuag ato ef a‘i waith elusennol.
Ychwanegodd beth bynnag nad oedd “tristwch ac anobaith” y teulu yn ddim o’i gymharu â theimladau’r dioddefwyr.
“Mae ein meddyliau a’n gweddiau gyda’r rhai sydd wedi dioddef pob math o gamdriniaethau dros cymaint o flynyddoedd ac rydym yn cynnig ein cydymdeimlad dwysaf iddyn nhw oherwydd y cyfnod oedd yn sicr yn un difrifol iawn i bob un ohonyn nhw,” meddai.
Mae’r heddlu wedi dweud eu bod yn amau bod Savile wedi camdrin tua 300 o bobl.
Mae yr Egwlys Babyddol yng Nghymru a Lloegr hefyd wedi cadarnhau eu bod wedi ysgrifennu ar y Pâb yn y Fatican i ofyn iddo dynnu yr urdd marchog pabyddol oddi ar Savile ar ôl ei farwolaeth.