Fe fydd dau o gyffiniau Conwy yn priodi ar ôl chwech o’r gloch heno diolch i newid yn y gyfraith sydd wedi nodi tan yn ddiweddar bod yn rhaid i briodasau ddigwydd rhwng 8 y bore a 6 yr hwyr.

Daeth y ddeddf newydd i rym ar 1 Hydref eleni ond bwriad y ddeddf wreiddiol yn 1837 oedd atal pobl rhag priodi yn y dirgel.

Roedd hyn yn broblem gymdeithasol ar y pryd a dyma paham mae eglwysi hyd heddiw yn cyhoeddi enwau’r rhai sydd eisiau priodi deirgwaith yn ystod y gwasanaethau cyn y briodas.

Dyw’r Eglwys yng Nghymru hyd yma ddim yn bwriadu trafod newid yr hen arferiad a chynnal priodasau gyda’r nos.

Bydd y seremoni heno yn digwydd mewn gwesty rhywle yn y sir a dyw enwau’r ddau fydd yn priodi heb eu cyhoeddi hyd yn hyn.

“Roedd yn rhaid cynnal seremoni rhwng 8yb a 6yh ond rwan mae modd cynnal seremoni unrhyw amser ac ar unrhyw ddiwrnod cyn belled a bod yr awdurdod lleol yn cytuno,’ meddai llefarydd ar ran Cyngor Conwy.

Mae Prif Gofrestrydd Conwy yn credu mai dyma’r briodas gyntaf o’i bath yng Nghymru gan nad yw’r rhan fwyaf o awdurdodau wedi penderfynu eto a fyddan nhw’n cynnig yr un gwasanaeth gyda’r nos.

Fe fydd gan y pâr priod awr ychwanegol i ddathlu yn y wledd wedi’r seremoni beth bynnag.  Bydd y cloc yn troi yn ôl am 02:00 bore yfory gan ddirwyn Amser Haf Prydain i ben am flwyddyn arall.