Mae Heddlu Scotland Yard wedi cyfaddef wrth bapur newydd The Sun eu bod nhw wedi derbyn cwynion am y darlledwr Jimmy Savile yn yr 1980au ac yn 2003.

Yr wythnos diwethaf, fe ddywedon nhw nad oedden nhw erioed wedi derbyn unrhyw gŵyn amdano.

Ond mae The Sun wedi datgelu bod yr Heddlu wedi ymchwilio saith gwaith o’r blaen i’w ymddygiad.

Roedd yr honiad cyntaf gan ferch a ddywedodd fod Jimmy Savile wedi ymosod yn anweddus arni mewn carafan ar safle Canolfan Deledu’r BBC yn Llundain.

Mae’r heddlu wedi dweud nad oes cofnod o’r gŵyn ar gael bellach.

Yn 2003, derbyniodd yr heddlu gŵyn ei fod e wedi cyffwrdd â merch yn anweddus yn ystod y 1970au.

Yn 2007, gwnaeth dynes gŵyn ei fod e wedi ymosod yn anweddus arni yn Ysgol Duncroft yn Surrey yn ystod y 1970au, a chwynodd merch arall iddo ymosod yn anweddus arni yn Ysbyty Stoke Mandeville ym 1973.

Cafodd pumed cŵyn ei derbyn ei fod e wedi annog merch i gael rhyw ag e yn Duncroft yn y 1970au.

Roedd y chweched cŵyn yn ymwneud ag ymosodiad anweddus ar oedolyn yn Sussex ym 1970 ac yn olaf ei fod e wedi camdrin bachgen 10 oed yng nghartref plant Haut de la Garenne ar ynys Jersey yn y 1970au.

Cafodd yr holl gwynion eu rhoi o’r neilltu oherwydd diffyg tystiolaeth.

Mae ymchwiliad gan y BBC i ymddygiad Jimmy Savile tra ei fod yn gweithio yno eisoes wedi dechrau, gyda nifer yn honni ei fod e ac eraill wedi camdrin plant a phobl ifanc yn adeiladau’r Gorfforaeth.

Bellach, mae 300 o bobl wedi honni eu bod nhw wedi cael eu camdrin ganddo.

Mae’r Heddlu bellach yn dilyn 400 trywydd gwahanol fel rhan o’r ymchwiliad, ac maen nhw wedi awgrymu nad Jimmy Savile yw’r unig un yn y BBC oedd wedi camdrin plant a phobl ifanc.

Mae disgwyl i nifer o gyn-weithwyr y BBC gael eu harestio yn ystod y dyddiau nesaf.