Neil McEvoy
Mae cynghorydd sir Plaid Cymru a fu’n ddirprwy arweinydd Cyngor Caerdydd, wedi dweud y gallai Plaid Cymru fod wedi cipio tair o seddi comisiynwyr heddlu Cymru.

Mae Neil McEvoy yn anhapus fod pwyllgor gwaith Plaid wedi “perswadio’r gynhadledd i roi rhwydd hynt i Lafur” a dywed y byddai Plaid Cymru wedi medru curo Llafur yn ne Cymru.

“Ces i aelodau’r Blaid Lafur yn gofyn i fi sefyll yn yr etholiad achos doedden nhw ddim eisiau i Alun Michael ennill.

“Gallen ni fod wedi cael 60,000 o’n cefnogwyr ni yn y Cymoedd allan i bleidleisio a byddai hynny wedi bod yn ddigon i ennill basen i’n meddwl.

“Ystyriais i sefyll yn annibynnol, ond mae hi’n amhosib i ymgeiswyr annibynnol dorri trwodd yn yr etholiad.”

Roedd arweinwyr Plaid Cymru wedi gwrthwynebu’r etholiadau am eu bod yn “dod â gwleidyddiaeth i mewn i waith yr heddlu” ond yn ôl Neil McEvoy mae hi’n “ffuantus ac yn naïf” i feddwl fod yr heddlu ddim yn wleidyddol.

Codi 45,000 o dai newydd

Dywedodd Neil McEvoy fod pobol Caerdydd yn “gandryll” dros y cynllun i godi 45,000 o dai newydd yn y ddinas a’r cyrion, a 18,000 ohonyn nhw ar dir glas. Dywedodd fod gan Lafur “ddwy flynedd i amddiffyn yr hyn na ellir mo’i amddiffyn.”

Honnodd fod cynghorwyr Llafur wedi eu hethol ar blatfform o ddiogelu tir glas ond eu bod nhw wedi mynd yn groes i hynny yn y cyfarfod neithiwr wrth roi sêl bendith i’r cynlluniau.

“Mae Llafur wedi gwerthu allan i’r busnesau mawrion a dwi’n proffwydo na fyddan nhw’n llwyddo i gael get-awê gyda hyn.

“Pam nad ydy’n senedd genedlaethol ni’n amddiffyn y brifddinas?” gofynnodd Neil McEvoy.

“Maen nhw’n deddfu ar fagiau a gwm cnoi a fe allen nhw fod yn deddfu ar hawliau cynllunio.”

“Dywedais i cyn etholiadau’r cyngor fod bwriad gan Lafur i adeiladu ar gaeau glas. Dywedodd Llafur ar lawr senedd y Cynulliad fod yr honiadau hynny’n gelwydd a fe dderbyniodd pobol hynny.”

“Mae angen dwyn nhw i gyfrif am hyn. Fel arall, sefydliad Mickey Mouse sydd gyda ni ym Mae Caerdydd.”