Mae’r Aelod Cynulliad sy’n cynrychioli Pen Llŷn wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg yr wythnos hon ei fod o blaid codi tyrbinau gwynt mawr yno, er mwyn cwrdd â thargedau ynni ac er budd amaethwyr lleol.
Ag yntau hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Amgylchedd Y Cynulliad mae Dafydd Elis-Thomas AC am “ drio cyd-weithio efo pobol leol sy’n awyddus i arbed costau ynni yn y cartref neu gynhyrchu ynni o’r newydd”.
Mae’r gwleidydd yn dweud ei fod yn gobeithio “y bydd amaethwyr a chynhyrchwyr” yn manteisio fwy ar ynni gwynt gan gyfeirio at un ffarmwr llaeth sydd eisoes wedi codi tyrbin ym Mhen Llŷn er mwyn creu ynni i redeg ei barlwr godro a bythynnod gwyliau.
Anaddas medd Llais Gwynedd
Mae’r Cynghorydd Gweno Glyn o Lais Gwynedd yn cynrychioli Botwnnog, gyda rhannau o’i ward o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).
“Mae codi melinau gwynt o fewn dafliad carreg neu o fewn ANHE yn ddatblygiad cwbl anaddas,” meddai Gweno Glyn.
“Dyle ein bod ni’n rhoi pwyslais mawr ar warchod a gwella ein harddwch naturiol yn hytrach na gwneud yn gwbl wahanol wrth godi tyrbinau gwynt.”
Y stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.