Masters In France
Band roc a rôl o Gymru sy’n canu’r gân ar hysbyseb diweddara’r cwmni dodrefnu IKEA.
Nos Sadwrn yn ystod toriad The X-Factor ar ITV roedd Masters In France i’w clywed yn canu eu fersiwn nhw o’r gân ‘Playin’ with my friends’ gan BB King.
Fe gafodd ei recordio gan y band o Gaernarfon mewn stiwdio ym Mhenrhyndeudraeth ar gais IKEA i ddarparu’r gân ar gyfer eu hysbyseb.
“Roedd o mor weird,” meddai Mathew Ellis Sayer, gitarydd Masters In France.
“Ar y bore Gwener roedden ni yn Penrhyn yn gwneud y gân, a’r diwrnod wedyn roedd o ar adeg The X Factor o flaen naw miliwn o bobol. Hollol bizzare.”
Mi fydd y sylw yn “massive promotion” i’r band yn ôl y gitarydd, sy’n cyfadde’ mai “ychydig bach o ffans” sydd ganddyn nhw hyd yma.

Mwy yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.