Mae chwech o’r 11 aelod o staff mewn ysbyty preifat sy’ wedi eu canfod yn euog o gam-drin cleifion, bellach wedi eu dedfrydu i rhwng chwe mis a dwy flynedd o garchar.

Mae’r nyrsys a staff cynorthwyol yn cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Bryste.

Mae dau aelod o’r staff, Wayne Rogers, sy’n 32 oed, ac Alison Dove, sy’n 25 oed, wedi cael gwybod y byddan nhw’n cael eu carcharu.

Cafodd ymddygiad yr 11 oedd yn gweithio yn ysbyty preifat Winterbourne yn Swydd Gaerloyw ei ddatgelu gan raglen y BBC, Panorama haf diwethaf.

Bu perchennog yr ysbyty, Castlebeck, yn destun beirniadaeth yn ystod ymchwiliad ym mis Awst am flaenoriaethu elw ar draul cleifion.

Mae’r 11 aelod o staff wedi pledio’n euog i 38 o gyhuddiadau o esgeuluso neu gamdrin cleifion sydd ag anableddau dysgu.