Y Pwndit Rasio Ceffylau John McCririck
Mae sylwebydd rasio ceffylau chwedlonol Channel 4 wedi beirniadu agwedd rheolwyr y sianel at gyflwynwyr a sylwebyddion hŷn.

Bellach yn 72 oed, mae John McCririck wedi cael gwybod ei fod yn colli ei waith ar ddarllediadau rasus ceffylau Channel 4 yn dilyn yr hyn y mae’r sianel yn ei alw’n “ymchwil i’r gynulleidfa”.

Fe fydd Clare Balding yn parhau i gyflwyno’r rhaglenni.

Dywedodd John McCririck: “Mae hi mor drist bod rheolwr Channel 4, Jay Hunt a’r pennaeth cynhyrchu, Carl Hicks, y ddau yn rheolwyr BBC am amser maith, wedi mynd ar hyd y trywydd oedran, sy’n hen gyfarwydd.

“O blith y 13 fydd ar y sgrîn, Jimbo McGrath yn unig sydd dros ei 50.”

Dywedodd ei fod wedi cael gwybod ei fod yn colli ei waith hanner awr yn unig cyn i’r sianel gyhoeddi’r tîm cyflwyno a sylwebu newydd.

Rhybuddiodd John McCririck fod angen i’r sianel gofio ei bod yn darparu ar gyfer pobol o bob oed.

Ychwanegodd: “Wrth gwrs fy mod i’n siomedig iawn o gael fy niswyddo ar ôl darlledu ar fetio, ar ITV i ddechrau ac wedyn ar Channel 4, am 31 o flynyddoedd.”

Channel 4 yw prif ddarlledwr rasio ceffylau ym Mhrydain.

Nick Luck fydd y prif gyflwynydd arall gyda Clare Balding, ond does dim lle i Mike Cattermole.

Ychwanegodd John McCririck: “Rhaid i chi beidio tanbrisio’r gwylwyr.”

Dywedodd llefarydd ar ran Channel 4: “Mae’r tîm cyflwyno ar gyfer rasio Channel 4 o 2013 yn cynnwys ystod o ddarlledwyr profiadol ac arbenigwyr ar rasio ac mae’n adlewyrchu ein dymuniad i gyflwyno agwedd newydd tuag at ddarlledu rasio ceffylau wrth i ni ddod yn gartref daearol y gamp.”