Mae ymgynghoriad wedi cael ei lansio er mwyn mynd i’r afael ag anghenion pobl oedrannus yng Nghymru.
Mae gofyn i bobl ymateb i drydydd cam Strategaeth yr Henoed yng Nghymru, sydd yn rhan o gynllun 10 mlynedd ar gyfer gofal i’r henoed.
Bydd y strategaeth yn rhoi sylw i les, tlodi, cymunedau, ymgysylltu a chyfranogi.
Cafodd y strategaeth ei sefydlu yn 2003, ac mae nifer o gamau pwysig eisoes wedi cael eu cymryd.
Bellach, mae gan Gymru Gomisiynydd Pobl Oedrannus, ac mae’r henoed eisoes wedi derbyn trwyddedau bws a sesiynau nofio am ddim.
Fel rhan o’r cynllun hefyd, y gost fwyaf y mae’n rhaid i’r henoed ei thalu am dderbyn gofal yn y cartref yw £50 yr wythnos.
Bydd canlyniadau trydydd cam y strategaeth yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill 2013.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas: “Rwy am i ni ddathlu’r ffaith fod gan Gymru boblogaeth oedrannus. Mae gan Gymru’r gyfran uchaf o bobl oedrannus ymhlith gwledydd y DU a bydd hyn yn wir am yr 20 mlynedd nesaf.
“Nid mater o drin pawb yn yr un modd yw hyn. Rhaid i ni edrych ar bobl a chydnabod eu galluoedd a rhaid i ni herio’r agweddau a’r ystrydebau negyddol sydd wedi eu hen sefydlu am oedran a heneiddio.
“Mae yna angen am gydweithio a chofleidio’r realiti hwn am y cyfleoedd a’r heriau mae’n eu rhoi er mwyn gwireddu ein hymrwymiad hirdymor i wella bywydau pobl hŷn yng Nghymru.”