Mae hunanfomiwr wedi lladd ei hun a 35 o bobol eraill tu allan i fosg yng ngogledd Afghanistan.

Anafwyd 70 o bobol arall hefyd.

Digwyddodd yr ymosodiad yn nhref Maymana wrth I bobol ymgasglu yn y mosg i ddathlu gwyliau Eid al-Adha.

Roedd prif swyddogion y rhanbarth, gan gynnwys pennaeth yr heddlu a’r llywodraethwr yn y mosg adeg y ffrwydriad, lle’r oedd torf fawr wedi dod ynghyd.

Er na chafodd y penaethiaid eu hanafu, roedd swyddogion heddlu a milwyr ymysg y dioddefwyr.

“Roedd gwaed a chyrff marw ymhobman,” meddai Khaled, meddyg oedd yn digwydd bod yn y mosg ar y pryd.

“Roedd yn gyflafan.”

Daeth yr ymosodiad wrth i Arlywydd y wlad Hamid Karzai erfyn ar y Taliban “i roi’r gorau i ladd Afgfhaniaid eraill” ac “atal dinistr ein mosgs, ysbytai ac ysgolion”.