Yr orsaf yn cael ei chodi (James Knight CCA 3.0)
Fe fydd rhaid i Lywodraeth Prydain gyfiawnhau eu penderfyniad i ganiatáu system oeri ddadleuol mewn gorsaf bŵer ym Mhenfro.

Mae mudiad Cyfeillion y Ddaear Cymru yn hawlio buddugoliaeth ar ôl i’r Comisiwn Ewropeaidd anfon Llythyr o Rybudd Ffurfiol tros orsaf drydan nwy Penfro.

Mae hynny’n golygu y bydd rhaid i’r Llywodraeth egluro’r rhesymau tros eu penderfyniad sydd, yn ôl rhai, yn torri nifer o gyfarwyddebau Ewropeaidd.

Asiantaeth yr Amgylchedd a roddodd drwydded weithredu i’r orsaf.

Pryderon’

Roedd y penderfyniad yn dangos fod gan y Comisiwn nifer “o bryderon difrifol” am system oeri’r orsaf, meddai Gareth Clubb o Gyfeillion y Ddaear wrth Radio Wales.

Yn y pen draw, pe bai’r Comisiwn yn penderfynu bod rheolau wedi’u torri, fe allai cwmni RWE npower orfod gosod offer oeri newydd, meddai.

Y broblem

Cwyn Cyfeillion y Ddaear yw fod dŵr yn cael ei dynnu o’r aber yn Aberdaugleddau a’u bwmpio’n ôl ar wres llawer uwch i un o’r amgylcheddoedd môr mwya’ gwerthfawr yng Nghymru.

Maen nhw’n dweud bod Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi cefnogi eu gwrthwynebiad hefyd.