Y Gemau Olympaidd wedi rhoi hwb i'r economi
Mae disgwyl i ffigurau swyddogol ddangos heddiw bod y dirwasgiad gwaethaf ers y 1950au ar ben – ond fe fydd na rybudd am iechyd yr economi serch hynny.

Yn ôl arbenigwyr yn y Ddinas, roedd Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) wedi tyfu 0.6% rhwng mis Gorffennaf a mis Medi, ar ôl gostyngiad dros y tri chwarter diwethaf.

Mae’n debyg mai digwyddiadau fel Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines a’r Gemau Olympaidd fu’n bennaf gyfrifol am y twf yn y trydydd chwarter.