Dafydd Du ac Elin Fflur gyda'r enillwyr Philip Jones a Gai Toms
Mi fydd enillydd nesaf cystadleuaeth Cân i Gymru yn derbyn £4,000 yn llai na gafodd enillwyr eleni, Gai Toms a Philip Jones am eu cân ‘Braf yw cael byw’.
Ar ôl cipio’r wobr ym mis Mawrth fe ddywedodd Gai Toms bod angen newid fformat y rhaglen, ac mae’n ymddangos fod penaethiaid S4C wedi gwrando.
“Mae gormod o bling yn gyffredinol ar S4C,” meddai Gai Toms wrth golwg360 wedi’r fuddugoliaeth.
“Buasai llai o gyllideb a mwy o ddychymyg yn gwneud rhaglenni gwell dw i’n meddwl.”
Fe fydd y gyllideb yn llai ar gyfer Cân i Gymru 2013 gyda’r enillydd yn cael £3,500, a phedwar arall yn cael £1,000 yr un mewn gwahanol gategorïau – cyfanswm o £7,500.
Yn 2010 roedd y brif wobr yn £10,000, yr ail yn ennill £4,000 a £2,000 am ddod yn drydydd – £16,000 yn y pot gwobrwyo.
Y tro hwn fe fydd Gai Toms ar y panel fydd yn dethol chwech o gyfansoddwyr a fydd yn cael £900 yr un i greu cân orffenedig ar gyfer noson y gystadleuaeth.
Mae aelodau eraill y panel yn cynnwys Griff Lynch canwr Yr Ods a chyflwynydd Y Lle, y DJ Radio Cymru Lisa Gwilym, Gwilym Dwyfor o’r cylchgrawn pop Y Selar a Siôn Llwyd, basydd Elin Fflur.
Gellir darllen rhagor am y stori yma yn rhifyn Golwg yr wythnos hon