Dewi Llwyd
Mae BBC Cymru yn mynd i gyflwyno newidiadau i’w wasanaethau newyddion Cymraeg yn y flwyddyn newydd, ar Radio Cymru, S4C ac ar y we.

Ymhlith y newidiadau ar Radio Cymru bydd nifer o enwau cyfarwydd yn newid llefydd.

Mae’r gohebydd profiadol Dewi Llwyd yn symud i gyflwyno Post Prynhawn am bedwar diwrnod bob wythnos gan olynu Gareth Glyn sy’n gadael ar ôl cyflwyno’r rhaglen am 34 mlynedd.

Fe fydd  Dewi Llwyd yn rhoi’r gorau i gyflwyno rhaglen Newyddion ar S4C – mae wedi bod yn un o’r cyflwynwyr ers lawnsio’r rhaglen yn 1982. Ond fe fydd yn parhau i gyflwyno Pawb a’i Farn ar S4C ac yn parhau i gyflwyno Dewi Llwyd ar y Sul a Hawl i Holi ar Radio Cymru.

Mae S4C wedi diolch i Dewi Llwyd am ei “gyfraniad aruthrol i newyddiaduraeth”.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C Dafydd Rhys: “Mae hyn yn ddiwedd cyfnod i raglen Newyddion ac i S4C.  Mae Dewi wedi bod yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd ein sianel ers sefydlu S4C bron i 30 mlynedd yn ôl.

“Hoffwn i ddiolch i Dewi am ei gyfraniad aruthrol i newyddiaduraeth ar S4C dros y 30 mlynedd a dymuno’n dda iawn iddo yn ei rôl newydd yn cyflwyno un o brif raglenni newyddion BBC Cymru ar y radio.

“Mae awdurdod a phroffesiynoldeb Dewi wedi bod yn gaffaeliad i S4C – ac rydym yn ofnadwy o falch y bydd yn parhau’n wyneb cyfarwydd i’n cynulleidfaoedd wrth iddo ddal i gyflwyno rhaglen Pawb a’i Farn.”

Nia Thomas fydd yn cyflwyno Post Prynhawn ar Ddydd Gwener, a bydd hi’n dychwelyd i’w rôl fel uwch gynhyrchydd yn adran newyddion Radio Cymru, ac yn arwain tîm cynhyrchu’r Post Prynhawn.

Mae Garry Owen yn symud i gyflwyno Taro’r Post tra bod Dylan Jones yn newid lle gydag ef ac yn cyflwyno’r Post Cyntaf, ar y cyd gyda Kate Crockett a Gwenllian Grigg.

Newyddion S4C

Rhun ap Iorwerth a Bethan Rhys Roberts fydd prif gyflwynwyr Newyddion o fis Ionawr ymlaen, gyda Bethan Rhys Roberts yn cyfuno ei swydd gyda’i gwaith presennol yn  cyflwyno Good Morning Wales ar Radio Wales.

Mae disgwyl i Newyddion gael ei hail-lansio ym mis Mawrth ac mae’r BBC ac S4C yn ystyried ei darlledu ar amser gwahanol. Mae’r rhaglen ymlaen yn ddyddiol am 7.30 ar hyn o bryd.

Gwefan

Mae Rhodri Talfan Davies wedi dweud ei fod am weld cyrhaeddiad gwasanaethau Cymraeg ar-lein y BBC yn fwy na dyblu erbyn 2015, ac mae’r gorfforaeth yn cynnal adolygiad i’r arlwy ar hyn o bryd.

Mae disgwyl i newidiadau gael eu cyflwyno “gyda’r nod o greu gwasanaeth yn y dyfodol sy’n cynnig cynnwys mwy unigryw i gynulleidfaoedd.”