Sen Segur - un o grwpiau Taith Nyth
Taith Nyth yn llwyddiant ysgubol yn ôl trefnydd
Yn ôl un o drefnwyr taith ddiweddar ‘Nyth’, myfyrwyr Aberystwyth ydy’r rhai gorau am gefnogi gigs Cymraeg.
Roedd Gwyn Eiddior yn siarad â Golwg360 yn dilyn y daith gerddorol a gynhaliwyd ar ddechrau’r mis, gan fynd â grwpiau Cymraeg ifanc i Lundain, Manceinion, Bangor, Aberystwyth a Chaerdydd.
Roedd criw Nyth, sy’n cynnal gigs rheolaidd yn y Gwdihŵ yng Nghaerdydd, yn mynd â’r daith i dair o drefi a dinasoedd prifysgolion Cymru’n fwriadol mewn ymateb i gwynion am ddiffyg gigs Cymraeg yn y llefydd hynny.
“Roedd y daith yn llwyddiant ysgubol, ond roedd ambell noson yn well na’i gilydd” meddai Gwyn Eiddior wrth Golwg360.
Agorodd y daith yn agor yn Camden, Llundain ar 3 Hydref cyn mynd i 4 o leoliadau eraill dros y dyddiau canlynol.
“Roedd Llundain yn dda iawn. Mae gen ti gymuned Gymraeg yno ac roedd rhai wedi gwneud ymdrech i ddod draw o beth, tra bod gen ti hefyd gynulleidfa yn Camden sydd jyst yn taro ar draws gigs.”
Myfyrwyr Aber
Mae’n dweud bod y gig ym Manceinion wedi bod yn fwy o sialens, ond bod y dair gig yng Nghymru ar y cyfan wedi gweithio’n dda. “Roedd gig Bangor yn reit brysur, er bod Bangor ei hun yn dawel. Roedd Plant Duw yn dda iawn ar home turf fel petai.”
“Ond myfyrwyr Aber sy’n ennill y wobr am y sdiwdants gorau am gefnogi gigs” meddai’r trefnydd.
“Roedden ni’n poeni am Aber gan ein bod ni wedi cael trafferth ffeindio lleoliad ac ati, ond dwi’n meddwl mai Aberystwyth oedd yr uchafbwynt.”
Roedd lleoliad y gig yn Aberystwyth yn dipyn o ddirgelwch, gyda’r trefnwyr yn rhoi cyfarwyddiadau i ddilyn arwyddion ar Stryd Eastgate ar y noson.
Roedd y trefnwyr wedi cael trafferth ffeindio canolfan addas yn y dref ar gyfer y noson dan sylw a’r Clwb Ceidwadwyr oedd yr unig leoliad rhydd, ond roedd y gig yn orlawn.
Mae’r criw yn gobeithio gallu trefnu taith arall yn y dyfodol dan enw Nyth yn ôl Gwyn Eiddior, ond mae’n siŵr y bydd rhaid disgwyl tan hydref nesaf.
Taith Nyth oedd y gyntaf mewn clwstwr o deithiau grwpiau cyfoes Cymraeg sy’n cael eu cynnal dros yr hydref eleni.
Mae taith werin gyfoes yn ymweld â nifer o theatrau Cymru ar hyn o bryd, a’r wythnos diwethaf cyhoeddwyd manylion am ‘Daith 50’ Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sy’n dechrau ar 2 Tachwedd.