Mae Cyfarwyddwr BBC Cymru wedi rhoi pwyslais ar bartneriaethau mewn araith ym Mangor neithiwr.
Mynegodd Rhodri Talfan Davies ei ymrwymiad i ganolfan y BBC yn y ddinas, a dywedodd ei fod yn edrych ar ffyrdd pellach o gydweithio gydag S4C.
“Ry’n ni’n edrych ar syniadau sydd â’r potensial i weithio yn y ddwy iaith,” meddai Rhodri Talfan Davies tra’n siarad ar safle Friars ym Mangor.
“Bythefnos yn ôl fe wnaeth S4C a’r BBC gytuno i gyd-ariannu cyfres ddrama fawr newydd a fydd yn cael ei darlledu ar S4C yn Gymraeg yn gyntaf, ac yna ar BBC One Wales yn Saesneg.”
“Mae Radio Cymru ac S4C hefyd yn brysur yn edrych ar y meysydd ble gallan nhw gydweithio,” meddai.
Canolfanau’r BBC yn y gogledd
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, sydd wedi bod yn ei swydd ers Medi 2011, fod canolfan y BBC ym Mangor yn chwarae rôl bwysig.
“Y gwir amdani yw bod ein canolfan ddarlledu ni yma ym Mangor yn cwmpasu ein hymrwymiad i wasanaethu Cymru gyfan,” meddai Rhodri Talfan Davies.
“Mae’n ein galluogi ni i weld Cymru o ddau ben y telesgop.”
Yn y digwyddiad neithiwr cafodd Bethan Williams, pennaeth newydd y BBC yng ngogledd Cymru, ei chyflwyno, a dywedodd Rhodri Talfan Davies fod ganddi “gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y canolfannau ym Mangor ac yn Wrecsam”.
Teyrnged i dimau newyddion y BBC
Cafodd BBC Cymru ei gyhuddo gan rai o fynd dros ben llestri yn ei darllediadau o daith y fflam Olympaidd trwy Gymru, ond talodd Rhodri Talfan Davies deyrnged i waith timau newyddion y Gorfforaeth yn ystod digwyddiadau’r haf.
Dywedodd hefyd fod diflaniad April Jones ym Machynlleth wedi “ymestyn adnoddau newyddiadurol BBC Cymru at y terfyn.”