George Entwistle (Llun BBC)
Mae pennaeth y BBC wedi dweud ei fod yn edifar am ddangos rhaglenni teyrnged i’r DJ Jimmy Savile cyn y Nadolig y llynedd.
Fe gawson nhw’u darlledu yn fuan ar ôl penderfyniad i beidio â dangos eitem ar raglen Newsnight am honiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn y seren radio a theledu.
Er hynny, roedd George Entwistle yn mynnu nad oedd yn gwybod beth oedd cynnwys yr eitem – doedd e ddim wedi holi, meddai, rhag cael ei gyhuddo o ymyrryd.
“Dw i ddim yn credu fy mod i wedi methu ond mae’n ymddangos bod y system gyfan wedi gwneud pethau o le,” meddai wrth Bwyllgor Dethol yn Nhŷ’r Cyffredin.
Heddiw hefyd, mae un o gydweithwyr Savile, Paul Gambaccini, wedi dweud ei bod yn hysbys o fewn y BBC fod cyflwynydd Radio I a Jim’ll Fix It yn targedu merched ifanc bregus oedd mewn sefydliadau gofal.