Shobna Gulati (Boffy B GNU)
Mae pedwar o bobol yn dod ag achos llys yn erbyn papurau’r Mirror tros honiadau o hacio i negeseuon ffonau symudol.

Dyma’r tro cyntaf i gamau o’r fath gael eu cymryd yn erbyn papurau heblaw rhai News International.

Fe gyhoeddodd y cyfreithiwr cyfryngau, Mark Lewis, ei fod yn gweithredu ar ran y pedwar, sy’n cynnwys actores Coronation Street, Shobna Gulati.

Mae’r tri arall yn ymwneud â byd pêl-droed:

  • Sven Goran-Eriksson, cyn reolwr tîm Lloegr.
  • Abbie Gibson, a fu’n gofalu am blant David a Victoria Beckham.
  • Garry Flitcroft, cyn gapten tîm Blackburn Rovers.

Fe gwympodd gwerth cyfrannau cwmni Trinity Mirror o 11% heddiw – yn ôl sylwebwyr, roedd hynny’n rhannol oherwydd y newyddion am y gweithredu cyfreithiol.

Does dim datganiad wedi dod eto gan Trinity Mirror eu hunain – nhw yw perchnogion y Daily Post a’r Western Mail a nifer o bapurau lleol yng Nghymru.

Mae’r honiadau’n ymwneud â phapurau Prydeinig y cwmni – y Daily Mirror, y Sunday Mirror a’r People.