Jimmy Savile (jmb CCA 2.5)
Bydd pennaeth y BBC George Entwistle yn cael ei holi heddiw am fethiant Gorfforaeth wrth ddelio gyda helynt Jimmy Savile.
Fe fydd yn gorfod ateb cyhuddiadau a gododd mewn rhaglen arbennig gan Panorama neithiwr, yn dangos fod penaethiaid yn y BBC wedi cael clywed am sïon fod Jimmy Savile yn cam-drin merched a phlant a’u bod wedi penderfynu darlledu rhaglenni teyrnged iddo yn hytrach nag ymchwiliad ar Newsnight.
Roedd y rhaglen hefyd yn tanseilio esboniad y Gorfforaeth am eu rhesymau tros wrthod yr eitem i Newsnight ac fe ddywedodd un o newyddiadurwyr mwya’ profiadol y BBC, John Simpson, mai dyma’r argyfwng mwya’ iddi mewn hanner can mlynedd.
Er bod Jimmy Savile wedi marw ers blwyddyn, mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i honiadau yn erbyn pobol fyw ac roedd Panorama neithiwr yn enwi’r canwr roc Gary Glitter, sydd wedi bod yn y carchar am gam-drin plant.
Ymddiswyddo
Mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol gerbron y Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ddiwrnod ar ôl i olygydd y rhaglen Newsnight, Peter Rippon, ymddiswyddo.
Roedd y BBC wedi dweud fod esboniad Rippon o’r modd y cafodd ymchwiliad i Savile ei ollwng yn “anghywir neu’n anghyflawn” a George Entwistle oedd pennaeth teledu’r Gorfforaeth ar y pryd.
Dim ond fis diwethaf dechreuodd George Entwistle ar ei swydd ac mae disgwyl iddo ateb cwestiynau am ddau adolygiad y BBC ar helynt Savile, y modd yr archwiliodd y BBC gefndir Savile pan oedd y DJ yn cael ei gyflogi ganddyn nhw, a pholisïau’r gorfforaeth ar aflonyddu rhyw.
Mae cyn-bennaeth Sky News, Nick Pollard, yn cynnal yr ymchwiliad i mewn i’r modd y mae’r Gorfforaeth wedi delio gyda helynt Jimmy Savile.