Gareth Malone
Pafiliwn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen fydd lleoliad rownd derfynol rhaglen deledu’r BBC, ‘The Choir: Sing While You Work’.
Bydd rownd derfynol y gystadleuaeth, sy’n cael ei darlledu ar BBC2, yn cael ei chynnal ar Hydref 25.
Mae’r rhaglen, dan ofal yr arweinydd Gareth Malone, yn olrhain hanes pedwar côr sydd wedi cael eu sefydlu mewn gweithleoedd ledled Lloegr.
Bu Gareth Malone yn ymwelydd gwadd yn Eisteddfod Llangollen eleni.
‘Traddodiad cyfoethog’
Dywedodd Gareth Malone: “Mae gan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen draddodiad cyfoethog o ganu corawl ac mae Tlws Pavarotti yng Nghystadleuaeth nodedig Côr y Byd wedi codi ei statws yn fyd eang. Mi oedd yn fraint i gael bod yn westai gwadd mewn gŵyl sydd â thraddodiad corawl mor gyfoethog ag sydd yn cael cefnogaeth ymwelwyr o bob cwr o’r byd.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Eilir Owen Griffiths: “Rhan o fy nyletswyddau fel Cyfarwyddwr Cerddorol Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yw denu corau newydd o bob cwr o’r byd i ddod yma a chystadlu yn yr Wyl gan barhau traddodiad o 65 mlynedd.
“Mae’r ffaith fod y BBC a Gareth Malone wedi dewis llwyfan pafiliwn Llangollen, sy’n enwog am lwyfannu cystadleuaeth Côr y Byd fel platform i’r rownd derfynol yn sêl bendith gwych i Eisteddfod Llangollen.
“Rwy’n hynod o hapus i allu dweud y bydd ffeinal ‘The Choir’ wedi ei lwyfannu yma ar lwyfan ryngwladol Eisteddfod Llangollen.
“Mi oedd yn deyrnged deilwng i wahodd Gareth Malone i fod yn Westai Gwadd o gofio ei gyfraniad dros y blynyddoedd diwethaf i gerddoriaeth gorawl. Mae wedi poblogeiddio a chodi proffil y traddodiad yn sgil ei ymroddiad a’i waith caled.”