Jimmy Savile
Mae disgwyl i raglen ddogfen heno honni fod y BBC wedi gollwng eitem ar Jimmy Savile ar ôl pwysau gan reolwyr.

Mae golygydd Newsnight Peter Rippon wedi mynnu fod y darn – a oedd i fod i gael ei ddarlledu ym mis Rhagfyr – wedi cael ei ollwng am resymau golygyddol ac nid am eu bod yn poeni y byddai’n  niweidio rhaglen deyrnged i Savile a oedd wedi ei gynllunio gan y BBC ar gyfer y Nadolig.

Bydd rhaglen Panorama heno yn clywed gan gyfarwyddwr Newsnight, Meirion Jones, a gohebydd i’r rhaglen, Liz MacKean, sy’n honni eu bod nhw wedi cyfweld ag o leiaf pedwar o bobol a gafodd eu cam-drin gan Savile.

Dywedodd y ddau fod rheolwyr o fewn y BBC wedi penderfynu gollwng yr ymchwiliad am fod Gwasanaeth Erlyn y Goron heb gyhuddo Savile gan nad oedd digon o dystiolaeth.

Cafodd yr honiadau am Jimmy Savile eu datgelu mewn rhaglen ddogfen gan ITV, a greodd anniddigrwydd o fewn y BBC am iddyn nhw golli’r stori, a chyhuddiadau eu bod nhw wedi ceisio celu’r stori.

Mae golygydd tramor y BBC, John Simpson, wedi disgrifio’r helynt fel “yr argywng gwaethaf rwy’n ei gofio yn yr hanner can mlynedd rwy wedi bod gyda’r  BBC.”