Chris Needs
Bydd y cyflwynydd radio poblogaidd Chris Needs i’w weld ar raglen arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol nos Sul, 28 Hydref. Bydd yn cyflwyno rhai o’i hoff emynau ac yn trafod crefydd a bywyd y capel.

Awn gydag ef i Gwmafan, sef yr ardal lle’i magwyd, ac i’r capel y mynychai, sef Capel Seion Bethania, lle byddai ei ddiweddar fam yn pregethu ac yntau’n chwarae’r organ.

“Mae Capel Seion Bethania yn lle pwysig iawn i mi. Roedden ni wastad yn mynd tair gwaith ar ddydd Sul,” meddai Chris wrth ein tywys i’r capel. “Rwy’n gallu dychmygu mam nawr yn ei sedd ac rwy’n cofio’r lle ’ma pan oedd e’n llawn, llawn. Bendigedig!”

Wrth gymryd ei sedd o flaen yr organ fawr yn y capel, mae’n cofio un stori ddoniol.

“Fi’n cofio unwaith, mam yn pregethu a fi yn ‘ware’r organ ac ro’n i jest â chwympo i gysgu a dweud y gwir achos ro’n i’n gweithio’n hwyr y noson gynt. Roedd mam wedi dweud wrtho i “Pan odw i’n dweud ‘Amen’ fi ishe nodyn ar gyfer Gweddi’r Arglwydd.”

“Ond, roedd hi’n mynd ’mlaen a ’mlaen gyda’i phregeth nes i fi gwympo i gysgu fan hyn. Y peth nesa, whack, mam yn bwrw’r Caniedydd ar draws fy mhen!”

Y llynedd, bu Chris yn wael iawn gyda salwch y mae e’n honni gwnaeth bron iawn â’i ladd.

“Fi ffaelu credu bo fi ’ma heddiw. Rwy’n dipyn teneuach, ond rwy dal ’ma,” meddai Chris, wnaeth golli dros 7 stôn yn ystod ei gyfnod o salwch.

Mae’n diolch i’w ffydd ac i gefnogaeth gwrandawyr ei raglen radio nosweithiol ar Radio Wales am ei helpu i ddod dros y cyfnod anodd. Er nad yw eto’n holliach o’r salwch wnaeth effeithio ar ei lwnc, mae’n falch fod ei lais wedi cryfhau erbyn hyn a’i fod yn gallu parhau i gyflwyno’r rhaglen radio sydd mor bwysig iddo.

Dechrau Canu Dechrau Canmol

Nos Sul 28 Hydref 8.00pm, S4C