Mae S4C yn dathlu pen-blwydd y Sianel yn 30 oed gydag wythnos arbennig o raglenni sy’n cynnwys rhywbeth i bawb.
Bydd drama, canu, dogfen a’r digri’n ffurfio wythnos o wylio cofiadwy wrth inni ddathlu’r tri degawd a mwynhau cynnyrch modern ein Sianel.
Mae’r cwbl yn ddechau ar Heno ddiwedd Hydref wrth i’r rhaglen lansio pleidlais gyhoeddus a fydd yn rhoi oriau o arlwy’r wythnos yn nwylo’r bobl. Bydd gofyn i’r cyhoedd bleidleisio am eu hoff raglenni o’r deg ar hugain sydd wedi eu hawgrymu gan y cyhoedd eisoes, a chaiff y rhaglenni buddugol eu darlledu’r wythnos ganlynol. Yn ogystal, bydd rhywun sydd wedi bwrw pleidlais yn ennill gwobr yn ystod pob rhaglen.
Meddai Angharad Mair, golygydd rhaglen Heno:
“‘Da ni griw Heno yn edrych ymlaen yn fawr iawn i fod yn rhan bwysig o ddathliadau pwysig pen-blwydd S4C, ac yn yr un modd â holl wylwyr S4C dros y blynyddoedd, yn edrych ymlaen at weld pa raglenni sydd wedi aros yn y cof ac a ddaw i’r brig yn ystod yr wythnos.”
Bydd un o raglenni arbennig wythnos y pen-blwydd yn mynd â ni yn ôl i gyfnod cyn i’r Sianel fodoli – ond cyfnod oedd yn gwbl allweddol i’w sefydlu. Mae Gwynfor, drama ddogfen newydd a ysgrifennwyd gan y llenor, T. James Jones yn seiliedig ar flwyddyn dyngedfennol yn hanes Gwynfor Evans. Yn ôl cynhyrchydd Gwynfor, Lona Llewelyn Davies, gallwn ddisgwyl portread “cynnes a sensitif o ddyn dewr a wnaeth benderfyniad ysgytwol.”
Bydd Plant y Sianel yn dychwelyd wrth i S4C ail-ymweld â chenhedlaeth o Gymry a aned yr un flwyddyn a’r Sianel. Yng nghwmni’r ddarlledwraig Beti George cawn weld beth yw hanes yr unigolion heddiw – rhai bellach yn briod ac yn dechrau magu teulu, ambell un wedi wynebu trasiedïau ysgytwol a rhai wedi gwireddu eu breuddwydion.
Gydag S4C30 cawn gyfle i ail-fyw rhai o uchafbwyntiau’r Sianel dros y tri degawd. Ymunwch ag un o wynebau gwreiddiol y Sianel, Siân Thomas, wrth iddi chwythu’r llwch oddi ar raglenni o’r archif gan adael i chi’r gwylwyr hel atgofion am eich hoff raglenni.
Yn ystod y cyfnod pen-blwydd gall y gwylwyr hefyd edrych ymlaen at bennod arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol o Rosllannerchrugog, a bydd Sam ar y Sgrin a’r Byd ar Bedwar hefyd yn paratoi eitemau arbennig ar ein cyfer.
Yn ôl Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr cynnwys S4C, “Mae’r gynulleidfa wedi bod yn ganolog i holl weithgareddau’r Sianel dros y 30 mlynedd diwethaf felly fel rhan o’r dathliadau rydym yn trosglwyddo oriau o’n hamserlen i’r gynulleidfa gyda’r gystadleuaeth archif.
“Gyda’r ddrama ddogfen bwysig, digon o gomedi a rhaglenni dogfen arbennig fe fydd rhywbeth i bawb fwynhau wrth i ni ddathlu pen-blwydd y Sianel. Cofiwch nad edrych yn ôl yn unig fyddwn ni; mae llu o raglenni a chyfresi newydd ar y gweill hefyd.”