The Valleys
Mae grŵp o Aelodau Seneddol, Aelodau Cynulliad ac ymgyrchwyr wedi anfon llythyr at MTV heddiw, yn annog y cwmni i gyfrannu 5% o’i elw o’r gyfres realiti The Valleys i elusen leol yn y Cymoedd.

Mae’r llythyr yn cyhuddo MTV o gyflwyno delweddau nawddoglyd a stereoteipiedig o Dde Cymru a Gogledd Ddwyrain Lloegr yn eu rhaglenni realiti The Valleys a Geordie Shore.

Mae’r rhai sydd wedi arwyddo’r llythyr yn galw ar y cwmni i rannu’r elw o hysbysebion gyda’r elusen leol Valleys Kids, er mwyn “dangos parch i’r bobl a’r ardaloedd” dan sylw.

Ymhlith yr ASau  o Gymru sydd wedi arwyddo’r llythyr mae Owen Smith a Paul Murphy, ynghyd a’r awdures Rachel Trezise, y newyddiadurwraig Carolyn Hitt a’r actor Jonny Owen.

Yn Lloegr mae’r ASau David Miliband a Chi Onwurah wedi arwyddo’r llythyr, ar ôl cael  eu cythruddo gan y portread o Newcastle yn y gyfres Geordie Shore.

‘Angen dangos parch’

Mae mwy na 2,200 o bobl hefyd wedi arwyddo deiseb gan ymgyrchwyr o dan yr enw The Valleys Are Here  yn galw ar MTV i rannu’r elw gydag elusen.

Mae ’na feirniadaeth hallt wedi bod o’r gyfres The Valleys sy’n dilyn hynt a helynt naw o bobl ifainc wrth iddyn nhw symud o’r Cymoedd i Gaerdydd.

Dywedodd James Bevan, un o sylfaenwyr The Valleys are Here ei bod “yn hen bryd i MTV ddechrau dangos parch tuag at ardaloedd fel Cymoedd y De a’r Gogledd Ddwyrain (Lloegr). Does dim ffordd well i MTV ddechrau’r broses na thrwy rannu rhan o’u helw o The Valleys gyda’r elusen Valleys Kids.”

Ychwanegodd y byddai’r arian yn gwneud “byd o wahaniaeth” i fywydau pobl ifainc Valleys Kids.