Mae cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC Greg Dyke wedi beirniadu ymateb y BBC i scandal Jimmy Savile.
Dywedodd y dylai’r Gorfforaeth fod wedi “symud yn sydyn iawn” i egluro pam bod adroddiad gan Newsnight am honiadau o gam-drin rhywiol wedi ei ollwng.
Wrth ddarlithio yn Ysgol Fusnes Prifysgol Kingston, fe ddywedodd Dyke: “Roedd angen i rywun egluro pam eu bod nhw wedi penderfynu peidio ei ddangos neu fel arall roedd yn gwneud iddyn nhw edrych yn amheus ac roedd yn ymddangos bod rhywun wedi pwyso arnyn nhw oherwydd bod y BBC eisiau dangos dwy raglen arbennig am Jimmy Savile, a dw i ddim yn credu y byddai hynny wedi digwydd.”
Yn ôl Dyke fe ddylai’r BBC fod wedi egluro’r “rhesymau golygyddol” dros beidio dangos yr adroddiad ar Newsnight.