Mae lleidr gafodd sioc drydanol a llosgiadau difrifol wrth geisio dwyn cebl wedi ei garcharu am 27 mis.

Bu’n rhaid i Mark Lawrence Blay fynd i’r ysbyty ar ôl torri’r cebl trydan oedd yn cludo 11,000 folt.

Roedd wedi ceisio dwyn o cebl o orsaf reilffordd Pontyclun yn y de ar Hydref 17.

Daethpwyd o hyd i DNA Blay yno a’i fod wedi mynd i’r ysbyty gyda llosgiadau difrifol i’w law chwith.

Oherwydd yr ymgais i ddwyn y cebl bu 2,400 o gwsmeriaid Western Power heb drydan am ryw awr, a bu’n rhaid talu £13,899 i drwsio’r difrod.