Mae plisman wedi ei gyhuddo o ddangos ei breifats i ddynes wnaeth ddiodde’ trosedd, ac fe fydd yn sefyll ei brawf y flwyddyn nesa’.

Hefyd mae’r Ditectif Gwnstabl Jeffery Davies, 41, wedi ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol trwy gyffwrdd merched wnaeth ddiodde’ troseddau.

Mae’r tri chyhuddiad yn ymwneud â digwyddiadau ar dri achlysur gwahanol dros gyfnod o fis rhwng Chwefror 202 a Mawrth 20 2010.

Roedd Davies yn blisman gyda Heddlu’r De ym Merthyr Tydfil ar adeg y troseddau honedig.

Ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe heddiw a gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Bydd ei achos llys yn cychwyn ar Chwefror 25 y flwyddyn nesa’.