Mae dyn 78 wedi dweud mai “nonsens” yw’r cyhuddiadau o dreisio plant yn ei erbyn.

Clywodd reithgor yn Llys y Goron Kingston heddiw fod Reginald Davies yn gwadu cam-drin pedair o genod ifanc rhwng 1949 a 1973 yn ne Cymru.

Cafodd y cyn-lowr ei anfon o Awstralia ym mis Medi’r llynedd, ar ôl cael ei arestio yn ei gartref yn Wanneroo wedi i’r cyhuddiadau yn ei erbyn gael eu gwneud ym Mhrydain yn 2008.

Mae’r pensiynwr yn gwadu tri chyhuddiad o dreisio plentyn, tri chyhuddiad o geisio treisio, wyth cyhuddiad o ymosod yn anweddus ac un cyhuddiad o anweddustra gyda phlentyn.