Mae rheolwyr y lofa sy’n cyflogi’r nifer fwya o lowyr yng Nghymru yn ymgynghori ar gau’r lle.
Yn ôl perchnogion Americanaidd Glofa Aberpergwm yng Nglyn Nedd byddai cau yn effeithio ar 270 o weithwyr.
Mae cwmni Walter Energy yn beio’r ffaith fod llai o alw am eu glo a’r caledi economaidd.
Er yn siomedig gyda’r newyddion, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rheolwyr y cwmni er mwyn sicrhau y bydd y rhai hynny sy’n colli eu gwaith yn cael cymorth.