Simon Thomas
Mae llefarydd newydd Plaid Cymru ar yr iaith am fynd i’r afael â Chymraeg ail-iaith yn ysgolion Cymru.

Eisioes yn lefarydd y Blaid ar addysg, oherwydd gwaharddiad Bethan Jenkins daw Simon Thomas yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg.

Ac yntau’n gyn-ddysgwr ei hunan, mae Simon Thomas eisiau mynd i’r afael â’r methiant i ddysgu Cymraeg fel ail-iaith i blant Cymru.

Mae corff arolygu Estyn wedi dweud droeon fod dysgu Cymraeg ail-iaith yn wan.

“Dyw Cymraeg ail-iaith ddim yn gweithio,” meddai Simon Thomas.

“Mae plant yn astudio Cymraeg ail-iaith am saith mlynedd ac ar y diwedd prin bod nhw’n medru dweud: ‘Shw mae?’

“Rydan ni wedi methu hyd yma i drosglwyddo’r iaith, neu hyd yn oed ymwybyddiaeth o’r iaith, i’n plant ni.”

Mae Simon Thomas yn credu “efallai bod angen llai o bwyslais ar basio arholiadau a mwy ar ddysgu i siarad Cymraeg”.

Mae hefyd am ailedrych ar “rhai pethau sydd wedi bod yn eitha’ dadleuol” fel cyfieithu’r Cofnod.

“Mae’n fwriad gan Blaid Cymru i gael Cynulliad dwyieithog,” meddai.