Mae heddlu Scotland Yard wedi cychwyn ymchwiliad troseddol ffurfiol i’r cwynion o gam-drin plant sydd wedi eu gwneud am Jimmy Savile, ac wedi cadarnhau eu bod yn gwybod am dros 200 o ddioddefwyr posib.

Mi fydd yr heddlu yn edrych ar gam-drin rhywiol yn ymwneud â phobol sydd dal yn fyw, ac yn ymchwilio i 400 o achosion yn ymwneud â Savile.

Yn ôl Peter Spindler o Heddlu Llundain maen nhw’n delio gyda cham-drin honedig “ar raddfa sydd heb gynsail iddi”.

Eglurodd Scotland Yard bod yr ymchwiliad i gam-drin rhywiol o blant gan Savile wedi datblygu’n ymchwiliad troseddol ffurfiol wedi i’r heddlu dderbyn honiadau yn ymwneud ag eraill sy’n dal yn fyw.