Jimmy Savile
Mae rhagor o honiadau ynglŷn â Syr Jimmy Savile wedi dod i’r amlwg heddiw.
Honnir bod y cyflwynydd teledu wedi ymweld â wardiau ysbyty er mwyn chwilio am blant y gallai ei gam-drin.
Mae nifer o honiadau ei fod wedi cam-drin cleifion ifainc yn Ysbyty Stoke Mandeville yn Sir Buckingham. Roedd wedi casglu miloedd o bunnoedd ar gyfer yr ysbyty.
Ond deellir bod nyrsys wedi casáu ei ymweliadau a’r ysbyty oherwydd ei ymddygiad, a honnir eu bod yn cynghori plant i aros yn eu gwlâu a chymryd arnyn nhw eu bod yn cysgu pan oedd yn ymweld â’r wardiau.
Dywedodd Rebecca Owen, un o gyn-gleifion Ysbyty Stoke Mandeville, wrth y BBC, ei bod hi wedi clywed sgwrs rhwng y nyrsys oedd yn awgrymu eu bod nhw hefyd yn cael eu targedu gan Jimmy Savile.
Dywedodd Ymddiriedolaeth Iechyd Sir Buckingham, sy’n cynnal yr ysbyty, eu bod nhw wedi eu synnu o glywed yr honiadau ac nad oedden nhw erioed wedi derbyn unrhyw gwynion am Savile.
Yn dilyn honiadau bod Savile wedi cam-drin plant yn ei ystafell yn y BBC, ac mewn ysbytai ac ysgolion, mae ’na alwadau ar y BBC i adolygu ei ganllawiau ar ddiogelu plant.
Mae’r Arglwydd Patten wedi dweud y bydd ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal gan y BBC mor fuan â phosib ar ôl i ymchwiliad yr heddlu ddod i ben.