Jimmy Savile
Dywed yr heddlu eu bod yn ystyried 120 o honiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn Jimmy Savile.

Mae Scotland Yard wedi cofnodi’n ffurfiol  wyth trosedd honedig yn erbyn y cyflwynydd teledu, gan gynnwys dau honiad o dreisio a chwech o ymosod yn anweddus.

Dywedodd pennaeth yr ymchwiliad Peter Spindler bod yr honiadau yn cwmpasu pedwar degawd a bod y wybodaeth sydd wedi dod i law yn awgrymu bod yr achosion o gam-drin honedig ar “raddfa genedlaethol.”

Ychwanegodd bod yr heddlu wedi cael galwadau gan ddioddefwyr, gan lygad-dystion a rhai sy’n credu bod ganddyn nhw wybodaeth i’w gynnig.

Mae’r honiadau yn bennaf gan ferched oedd yn eu harddegau, rhwng 13 ac 16, meddai a bod yr achos gyntaf yn dyddio’n ôl i 1959 ond bod y rhan fwyaf yn y 70au a’r 80au.

Mae Scotland Yard wedi bod mewn cysylltiad ag ITV a’r BBC i gasglu gwybodaeth. Maen nhw’n credu bod yr honiadau’n ymwneud a hyd at 25 o ferched.