Fe fydd brechlyn ffliw ar gael mewn rhai fferyllfeydd yng Nghymru am y tro cyntaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw.

Mae fferyllwyr mewn 137 o fferyllfeydd ar draws Cymru wedi cael hyfforddiant i’w galluogi i roi’r brechlyn.

Daeth y cyhoeddiad wrth i’r ymgyrch i hybu’r brechlyn ffliw gael ei lansio yng Nghaerdydd.

Mae’r Prif Swyddog Meddygol Dr Ruth Hussey am annog pobl sydd mewn grwpiau risg i gael y brechlyn.

“Mae’r ffliw yn lledaenu’n hawdd ac fe all achosi salwch difrifol a fyddai angen triniaeth mewn ysbyty,” meddai Dr Hussey.

Fe all ffliw arwain at gymhlethdodau eraill meddai, yn enwedig ymhlith pobl sydd yn y grwpiau risg.  Mae hynny’n cynnwys pobl dros 65 oed sydd mewn gofal hir dymor, pobl sydd ag afiechydon anadlu fel asthma, COPD neu broncitis; neu afiechydon yn ymwneud a’r galon neu’r afu, ac afiechydon niwrolegol a chlefyd y siwgr. Yn ogystal, mae’r ffliw yn peri risg i bobl sydd ag imiwnedd isel oherwydd afiechydon fel HIV ac Aids, neu ganser.

Fe ddylai gweithwyr iechyd, gofalwyr, merched beichiog ac aelodau o sefydliadau gwirfoddol sy’n darparu gofal cymorth cyntaf mewn digwyddiadau cyhoeddus, hefyd gael eu brechu.