Mae Nato wedi cyhoeddi ei fod yn barod i amddiffyn Twrci ar ôl i’r wlad daro nôl yn erbyn ymosodiadau Syria ar y ffin rhwng y ddwy wlad.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyffredinol Anders Fogh Rasmussen y gallai Ankara ddibynnu ar gymorth gan Nato a bod “y cynlluniau angenrheidiol mewn lle i ddiogelu ac amddiffyn Twrci os oes angen”.

Ond mae wedi galw ar y ddwy ochr i geisio atal y sefyllfa rhag gwaethygu.

Mae Twrci a Syria wedi bod yn ymosod ar ei gilydd ers i fom ladd pump o bobl gyffredin yn Nhwrci wythnos ddiwethaf. Mae gwrthdaro gwaedlyd wedi bod yn yr ardal ger y ffin â’r ddwy wlad rhwng lluoedd Serbia a gwrthryfelwyr.