Fe fydd cabinet Cyngor Gwynedd yn cwrdd prynhawn ma i drafod ei strategaeth addysg ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Ymhlith y pynciau fydd yn cael sylw gan y cynghorwyr fydd cyflwr Ysgol y Groeslon ger Caernarfon. Roedd rhieni disgyblion yr ysgol gynradd wedi atal eu plant rhag mynd i’r ysgol ar ddechrau’r tymor i dynnu sylw at gyflwr “truenus” yr adeilad.

Mae’r cyngor eisoes wedi dweud bod creu ysgol ardal newydd sbon  yn flaenoriaeth.

Fe fydd y cabinet hefyd yn trafod y gostyngiad sylweddol yn nifer y disgyblion uwchradd yn ardal Meirionnydd ac yn  ymateb i’r broblem o lefydd gweigion yn ysgolion y sir. Mae canran y llefydd gweigion yng Ngwynedd yn 28% sef yr uchaf yng Nghymru.

Dywedodd  y Cynghorydd Siân Gwenllian sydd â chyfrifoldeb dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc ar Gabinet Cyngor Gwynedd y bydd ei Chynllun Blaenoriaethau Ad-drefnu Ysgolion 2012-2017 “yn amlinellu’r gwaith sydd dal angen ei gwblhau yn ardaloedd Tywyn, y Bala a Dolgellau.

“Bydd hefyd yn cynnwys yr angen i ddatblygu mecanwaith ar gyfer edrych ar ysgolion bach iawn sy’n dod yn anghynaladwy ac ar ddarpariaeth addysg ym Meirionnydd, o ran ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, fel y gallwn ni ymateb i amgylchiadau sy’n newid.

“Bydd y Cynllun hefyd yn amlinellu’r angen i ymateb yn bragmataidd i’r broblem ‘llefydd gweigion’.”