Bydd llefarydd iechyd Plaid Cymru yn ceisio atal Llywodraeth Cymru rhag bwrw ymlaen gyda chynlluniau i eithrio’r gwaharddiad ar smygu ar setiau ffilm a theledu.

Bydd Elin Jones heddiw yn gofyn am ddwyn y ddeddfwriaeth arfaethedig gerbron y pwyllgor iechyd i graffu’n llawn cyn i bleidlais gael ei chymryd yn y Cynulliad.

Dywedodd Elin Jones fod cefnogaeth eang i’r ddeddfwriaeth ar smygu pan gafodd ei basio’n wreiddiol gan y Cynulliad Cenedlaethol, ac y buasai unrhyw gamu’n ôl yn peri bod gweithwyr ffilm yn wynebu peryglon diangen.

‘Camu’n ôl’

“Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i warchod iechyd ein cenedl, ac nid eithrio unigolion o’r gwaharddiad hwn yw’r ffordd i wneud hynny.

“Mae cefnogaeth eang i’r gwaharddiad ar smygu a bydd unrhyw gamu’n ôl yn gwanhau’r cynnydd mawr a wnaethom i iechyd y genedl trwy leihau’r adegau pan fydd pobl yn gorfod dioddef o fwg pobl eraill.

“Bu effaith y gwaharddiad ar smygu yn rhyfeddol. Cafwyd gostyngiad o 3% yn nifer yr ysmygwyr, ac y mae llai o bobl yn gorfod mynd i’r ysbyty oherwydd trawiadau ar y galon a phyliau o asthma.

“Nid ydym yn meddwl fod angen newid y ddeddfwriaeth o gwbl. Dyna pam y byddaf yn gofyn am ddwyn yr eithriad hwn i’r ddeddfwriaeth gerbron y pwyllgor iechyd fel y gall fod yn destun proses graffu go-iawn.”