Angela Merkel
Mae disgwyl protestiadau yng Ngwlad Groeg heddiw a mesurau diogelwch llym wrth i Ganghellor yr Almaen, Angela Merkel, ymweld ag Athen heddiw.

Daw ymweliad Angela Merkel ar gyfer trafodaethau gyda Phrif Weinidog y wlad, Antonis Samaras, wrth i’r aflonyddwch yn y wlad ddwysau oherwydd cynlluniau i gyflwyno rhagor o doriadau.

Dyma fydd ymweliad cyntaf Angela Merkel â’r wlad ers pum mlynedd.

Mae’r gweinidog sy’n gyfrifol am drefn gyhoeddus Nikos Dendias wedi apelio  ar brotestwyr i gadw’r heddwch ac i “amddiffyn delwedd ryngwladol y wlad.” Fe fydd hyd at 7,000 o blismyn ar ddyletswydd.

Fe fydd Athen yn gorfod cyflwyno rhagor o doriadau gwerth £10.9 biliwn dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn derbyn rhagor o arian gan wledydd parth yr ewro. Mae’r Almaen wedi cyfrannu’r rhan helaeth o’r arian ar gyfer benthyciadau Gwlad Groeg o’i gymharu â gwledydd eraill ym mharth yr ewro. Ond mae’r Almaen hefyd wedi bod yn feirniadol iawn o’r wlad gan fynnu bod Athen yn cyflwyno mesurau llymach i adfer yr economi.