Broadcasting House (Llun: BBC)
Mae yna bryderon bod hyd at 25,000 o weithwyr y BBC yn osgoi trefniadau treth incwm arferol.
Dywedodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus aml-bleidiol yn San Steffan eu bod nhw wedi cael “sioc” oherwydd nifer y gweithwyr sydd ar gytundeb yn hytrach na bod yn aelodau llawn o staff y Gorfforaeth.
Mae hynny’n golygu hefyd nad yw’r BBC yn tynnu treth o’u taliadau ond eu bod nhw’n cael eu trin fel gweithwyr ffri-lans ac yn gallu hawlio costau yn erbyn treth.
Mae’r pwyllgor hefyd yn pryderu am fod llawer o weithwyr eraill yn y sector cyhoeddus yn defnyddio trefniadau tebyg.
‘Sêr teledu’
Mae’r pwyllgor yn dweud bod y 25,000 o bobl y Bîb yn cynnwys 13,000 sy’n ymddangos ar y teledu a bod tua 3,000 eu talu trwy gwmni preifat.
Ymatebodd y BBC drwy ddweud bod y nifer dipyn yn is na 25,000, a bod modd rhoi cytundeb newydd bob tro y mae cyfrannwr ysbeidiol yn gweithio.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Margaret Hodge AS, fod y system bresennol yn creu awyrgylch o ddirgelwch a phryderon bod rhai yn ceisio ymatal rhag talu trethi.
Pennaeth cwmni benthyciadau hefyd
Penderfynodd y pwyllgor gynnal ymchwiliad ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod pennaeth y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, Ed Lester, wedi ei gyflogi drwy gwmni preifat heb fod angen iddo dalu trethi.
Dywedodd y Trysorlys yn gynharach eleni bod 2,400 o staff Whitehall – sydd yn ennill mwy na £58,200 y flwyddyn – yn cael eu talu’n uniongyrchol heb gael eu trethu.
Ond mae’r pwyllgor wedi rhybuddio nad oedd arolwg y Trysorlys yn cynnwys y sector cyhoeddus cyfan.
Chafodd llywodraeth leol, y Gwasanaeth Iechyd na’r BBC ddim o’u harchwilio.
Amau llywodraeth leol
Dywedodd Margaret Hodge fod y pwyllgor yn amau nad yw “nifer o unigolion a chyflogwyr o fewn llywodraeth leol a’r Gwasanaeth Iechyd yn talu eu cyfraniadau treth ac yswiriant gwladol go iawn”.
Dywedodd y BBC wrth y pwyllgor fod gweithwry sydd heb fod ar restr y staff yn gweithio’n llawrydd, a bod eu system drethu nhw yn arferol ym myd y cyfryngau.