j
Jimmy Savile
Mae un o gyn benaethiaid y BBC wedi dweud ei bod wedi clywed sïon am ymddygiad rhywiol Jimmy Savile pan oedd yn gweithio gyda’r Gorfforaeth.
Ond, yn ôl Janet Street-Porter, fyddai neb wedi cymryd sylw petai wedi gwneud honiadau yn erbyn y cyflwynydd a’r DJ a oedd hefyd yn casglu miliynau o bunnoedd at elusen.
Fe ddywedodd yr hanner Cymraes, sydd bellach yn newyddiadurwraig, fod yna ddiwylliant o “ymddygiad amhriodol” at ferched yn y maes adloniant.
“Ro’n i’n ymwybodol o sïon am Jimmy Savile, ro’n i hefyd yn ymwybodol o sïon am bobol eraill,” meddai ar y rhaglen holi, Question Time, neithiwr.
“Dw i’n teimlo mai’r rheswm na chwynodd y merched yma oedd na fyddai neb wedi eu credu nhw.”