Eurig Salisbury
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi gosod her i dîm Y Glêr gyfansoddi 100 o gerddi mewn 24 awr.
Mae’r her wedi cael ei gosod fel rhan o’r dathliadau ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, sy’n digwydd fory.
Tîm y Glêr oedd enillwyr Talwrn y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg eleni.
Y pedwar bardd sydd wedi derbyn yr her yw Bardd Plant Cymru, Eurig Salisbury, Iwan Rhys, Osian Rhys Jones a Hywel Griffiths.
Byddan nhw’n cyfansoddi 25 cerdd yr un, a gall y cerddi fod yn gerddi caeth neu rydd.
Bydd eu cyfansoddiadau’n cael eu cyhoeddi ar wefan Her 100 Cerdd, www.her100cerdd.co.uk wrth iddyn nhw gael eu cyfansoddi, naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig.
Efallai y bydd yn llai o her i Iwan Rhys nag i’r tri arall, gan iddo fynd ati i lunio cerdd bob dydd rhwng Eisteddfod yr Urdd 2007 ac Eisteddfod yr Urdd 2008.
Cafodd y cerddi eu cyhoeddi yn y gyfrol ‘Eleni Mewn Englynion’.
Dywedodd Osian Rhys Jones: “Fel tîm buddugol Talwrn y Beirdd BBC Cymru eleni, mae’n bleser gennym ni dderbyn yr her o gyfansoddi 100 cerdd mewn 24 awr.
“Rydym ni fel Y Glêr, dros nifer o flynyddoedd, wedi hen arfer â sialensiau talyrnau ac ymrysonau sy’n gofyn am dasgau byrfyfyr; ond bydd yr her hon yn gosod y nod yn uwch eto.
“Does yr un ohonom wedi ceisio cynnal un cyfnod o greadigrwydd am gyfnod mor hir cyn hyn, felly bydd yn ddiddorol iawn gweld beth fydd y canlyniadau.”
Mae Llenyddiaeth Cymru yn gofyn i bobl awgrymu testunau ar gyfer y cerddi, a gellir gwneud hyn ar wefan Twitter gan ddefnyddio #Her100Cerdd, tudalen Facebook Llenyddiaeth Cymru neu drwy e-bostio post@llenyddiaethcymru.org.