Mae cwmni cynhyrchu Ffresh yn cydweithio gydag S4C i roi’r cyfle i wneuthurwyr ffilm ifainc greu ffilm ar y thema cariad cyntaf.
Maen nhw’n chwilio am 5 o wneuthurwyr ffilm cyfrwng Cymraeg ifainc, a gall y ffilmiau fod ar ffurf ffuglen neu raglen ddogfen sydd yn 3 munud o hyd.
Caiff y gweithiau buddugol eu dangos yn ystod gŵyl Ffresh 2013 ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam.
Bydd cyfle i weld y ffilmiau buddugol ar raglen Y Lle ar S4C.
Y wobr ar gyfer y gystadleuaeth yw £400, a bydd yr enillwyr yn derbyn cyngor ac arweiniad wrth iddyn nhw fynd ati i gynhyrchu’r ffilm.
Mae gofyn bod ymgeiswyr yn cyflwyno triniaeth o’u ffilm wrth wneud cais i gystadlu, a rhaid i’r cystadleuwyr fod rhwng 16 a 25 oed.
Rhaid i’r ffilmiau gael eu recordio ar gamera HD, a rhaid i’r gwneuthurwr olygu ei waith ei hun.
Y dyddiad cau i gyflwyno’r cais yw Hydref 31, a bydd y ffilmiau gorffenedig yn cael eu cyflwyno i Ffresh erbyn Chwefror 1.
‘Cariad cyntaf’
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni cynhyrchu Antena: “Mae pob un yn cofio’i gariad cyntaf. Ac yn y cyd-destun hwn, gall cariad cyntaf gyfeirio at berson, anifail anwes, tegan neu unrhyw beth arall y mae pobl yn cofio syrthio dros eu pennau a’u clustiau mewn cariad ag ef.
“Rydym yn falch iawn o allu gweithio gyda ffresh i ddod o hyd i 5 o wneuthurwyr ffilm ifanc ac i roi bywyd i’r straeon hyn o gariad cyntaf mewn ffyrdd diddorol a gwreiddiol.”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, Garffild Lloyd Lewis: “Y gystadleuaeth hon yw’r ail dro i S4C a ffresh gydweithio er mwyn cefnogi gwneuthurwyr ffilm ifanc a rhoi cyfle iddyn nhw gael darlledu eu gwaith.
“Mae Ffresh ac Y Lle yn chwarae rhan bwysig yn y broses o feithrin talent newydd yng Nghymru – mae hynny wrth galon gweithgarwch S4C. Edrychaf ymlaen at weld y ffilmiau gorffenedig ac at weld datblygu ton newydd o gyfarwyddwyr talentog yng Nghymru.”